Hafan / Home

Pentre bach ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yw Ffarmers, i’r gogledd o’r A482 sy’n arwain o Lanwrda i Lanbedr Pont Steffan. Mae’r pentref yn cymeryd ei enw o’r Farmers’ Arms – un o dafarnau’r pentref sydd bellach wedi cau. Mae’r Ffordd Rufeining – Sarn Helen – yn mynd drwy’r pentref, ac ‘roedd y pentref yn ganolfan bwysig i’r porthmyn wrth yrru stoc o Geredigion i farchnadoedd Lloegr. Mae’r Drovers’ Arms yn dal yn ganolfan bwysig i bobl leol – mae’r tafarn ym mherchnogaeth trigolion yr ardal ers canol y nawdegau – Menter Gymunedol y Drovers.

Mae rhyw 50 o dau preswyl o fewn ffiniau’r pentref, a nifer o ffermydd a thai preswyl yn yr ardal o gwmpas y pentref. Mae yna Neuadd fawr yn y pentref – Neuadd Bro Fana – a agorwyd ym 1931 gyda neuadd gyngherddau, ystafell snwcer a chae chwarae i drigolion yr ardal.

Mae Ffarmers wedi ei leoli o fewn ardal a adnabyddir yn lleol fel Cwm Twrch, a gerllaw yr afon Twrch sydd yn ffurfio’r ffin rhwng plwyfi Cynwyl Gaeo a Llanycrwys.

Ffarmers is a small village in the parish of Cynwyl Gaeo, to the north of the A482 leading from Llanwrda to Lampeter. The village takes its name from the Farmers’ Arms that was located on the village square,but which has been closed for many years. The village straddles the old Roman Road – Sarn Helen – and was also an important location for the drovers driving cattle from Ceredigion to the markets of England. The Drovers’ Arms is still an important meeting place for local people, and has been owned by the community since the mid-nineties – The Drovers’ Community Venture.

There are some 50 dwellings within the village boundary and numerous farms and private dwellings in the surrounding district. The village hall – Neuadd Bro Fana – was opened in 1931 and has a concert hall, snooker room and a playing field/recreation area for local residents.

Ffarmers is located in the area locally known as Cwm Twrch, and near the River Twrch which is the parish boundary between Cynwyl Gaeo and Llanycrwys.

Newyddion / News

Croeso / Welcome!

Rydyn ar hyn o bryd yn y broses o drosglwyddo ein hen safle i’r safle wordpress newydd yma. Os ydych am ychwanegu unrhyw newyddion, digwyddiadau neu dudalennau ar gyfer cymdeithas neu grwp lleol, cysylltwch a ni. We are in the process of transferring our old site to this new wordpress site. Please bear with us…

Calendr Digwyddiadau / Events Calendar

Design a site like this with WordPress.com
Get started